Hyfforddiant

 

Hyfforddiant Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACaRh) ar gyfer Addysgwyr Ysgolion Cynradd


Parodrwydd ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb statudol. Mae’r cwrs hwn yn darparu gwybodaeth a strategaethau i gynorthwyo ysgolion ar gyfer:
• cynnal awdit o’r ddarpariaeth bresennol
• ymgynghori gyda’r dysgwyr
• cynllunio rhaglen effeithiol sy’n seiliedig ar hawliau a thegwch rhywiol.


Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer aelodau o dimau rheoli, arweinydd ACaRh yr ysgol a staff dysgu.


AMLINELLIAD Y CWRS

Bydd yr hyfforddwr yn helpu cyfranogwyr i archwilio amrediad o strategaethau ar gyfer creu gwersi diogel, deniadol a rhyngweithiol. Bydd yn darparu addysgwyr gyda gwybodaeth, sgiliau a hyder i ddysgu ACaRh ysgol gyfan effeithiol.
Bydd y cyfranogwyr yn cael eu harwain drwy’r Canllawiau a Chod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, Llywodraeth Cymru 2022. Cyflwynir strategaethau ac adnoddau ar gyfer cynorthwyo ysgolion i ddarparu rhaglen ACaRh ysgol gyfan o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad o fewn y Cwricwlwm i Gymru 2022.


Amcanion Dysgu
Bydd cyfranogwyr yn:
• Ymwybodol o’r dull awdit ar gyfer asesu’r ddarpariaeth gyfredol ac adolygu’r cydrannau ar gyfer ACaRh o safon uchel yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.
• Ymwybodol o’r teclyn mapio ‘Siwrne i ACaRh Statudol’
• Meddu archwilio amrediad o strategaethau addysgu ar gyfer creu gwersi diogel, deniadol a rhyngweithiol
• Cynyddu gwybodaeth, hyder a sgiliau ar sut i ddarparu ACaRh ysgol gyfan effeithiol.
• Ymwybodol o strategaethau ar gyfer enwi rhannau o’r corff gan gynnwys yr organau cenhedlol.
• Ymwybodol o strategaethau i drafod cyffyrddiad priodol ac amhriodol a diogelwch personol gyda’r dysgwyr.
• Medru defnyddio strategaethau i addysgu am y newidiadau corfforol sy’n digwydd yn ystod glasoed.
• Adnabod ymddygiad rhywiol amhriodol ymysg cyfoedion.
• Ymateb yn briodol i ddigwyddiadau o ymddygiad o natur rhywiol.Cymhwyso amrediad o adnoddau a dulliau i sicrhau bod ACaRh yn ddiogel, cynhwysol ac yn cyrraedd anghenion pob dysgwr.
• Adnabod arferion da mewn perthynas â chynllunio ACaRh.
• Adnabod arferion da mewn perthynas â monitro ac arfarnu ACaRh.
• Adnabod arferion da mewn perthynas ag asesu, monitro ac arfarnu’r addysgu a’r dysgu.
• Cymhwyso strategaethau ar gyfer rhannu gwybodaeth parthed ACaRh gyda staff ysgol, rhieni a’r Llywodraethwyr


Mae cynnwys penodol i’r hyfforddiant yn medru ei deilwro i gyrraedd anghenion ysgolion.
Am fanylion bellach cysylltwch â mi drwy e-bost - mail@teachhealth4kids.com


Adborth o’r cwrs
“y cwrs mwyaf defnyddiol a ddiddorol i mi fynychu ers amser maith, mae’r adnoddau a’r gweithgareddau wedi bod yn hynod ddefnyddiol”
“hyfforddiant diddorol a hwyliog- diogon o gyfle i drafod a chwestiynu”
“cwrs gwerth chweil popeth yn addas ac yn ddefnyddiol ar gyfer athrawon cynradd”
“yr wyf wedi derbyn gwybodaeth am adnoddau a syniadau/gweithgareddau y gellir eu defnyddio wrth gyflwyno’r maes yn y dosbarth”.
“yr wyf yn awr yn gwybod am yr hyn sydd angen ei drafod /a’i gyflwyno ar draws yr ysgol.
“cryfder yr hyfforddiant i mi oedd cael mynediad i doreth o adnoddau a chael gwybod y camau sydd ei angen i blant oed derbyn i flwyddyn 6 wybod”.
“yn dilyn yr hyfforddiant byddwn yn trefnu rhaglen gyson drwy’r ysgol ac yn adrodd yn ôl i’r holl staff a’r llywodraethwyr. “yr wyf yn llawer mwy hyderus i gynllunio ac addysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar ôl yr hyfforddiant ac yn edrych ymlaen i fynd ati”
“Yn eithaf ansicr ar ddechrau’r hyfforddiant ond yn falch o weld fy mod wedi cynyddu mewn hyder i ddysgu’r maes ar ddiwedd y dydd”
“mae’r hyfforddiant wedi gwneud i mi ystyried sut y byddwn yn cyflwyno’r pwnc fesul dosbarth ayyb”
“yn sylweddoli bod gan yr holl athrawon yr ysgol fewnbwn i’r maes a’r angen cydweithio drwy gydol yr ysgol”
“yr wyf yn awr yn cydnabod pwysigrwydd dilyniant drwy’r ysgol ac yr hyn sy’n addas i oedran ac aeddfedrwydd y plant”
“wedi mwynhau rhannu syniadau ar beth a sut i gyflwyno”.
“Oedd y sgyrsiau anffurfiol a’r cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y sesiwn yn ddefnyddiol iawn”.
“Oedd gan yr hyfforddwraig wybodaeth eang ac adnoddau defnyddiol tu hwnt! Diolch!
“gwaith grŵp yr amser cylch – Balans da i’r cwrs yn gyffredinol yn fy marn i”.

 

Hyfforddiant Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACaRh) ar gyfer Addysgwyr Ysgolion Uwchradd

Parodrwydd ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb statudol. Mae’r cwrs hwn yn darparu gwybodaeth a strategaethau i gynorthwyo ysgolion ar gyfer:
• cynnal awdit o’r ddarpariaeth bresennol
• ymgynghori gyda’r dysgwyr
• cynllunio rhaglen effeithiol sy’n seiliedig ar hawliau a thegwch rhywiol.


Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer aelodau o dimau rheoli, arweinydd ACaRh yr ysgol a staff dysgu.


AMLINELLIAD Y CWRS
Bydd yr hyfforddwr yn helpu cyfranogwyr i archwilio amrediad o strategaethau ar gyfer creu gwersi diogel, deniadol a rhyngweithiol. Bydd yn darparu addysgwyr gyda gwybodaeth, sgiliau a hyder i ddysgu ACaRh ysgol gyfan effeithiol.
Bydd y cyfranogwyr yn cael eu harwain drwy’r Canllawiau a Chod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, Llywodraeth Cymru 2022. Cyflwynir strategaethau ac adnoddau ar gyfer cynorthwyo ysgolion i ddarparu rhaglen ACaRh ysgol gyfan o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad o fewn y Cwricwlwm i Gymru 2022.


Amcanion Dysgu
Bydd y cyfranogwyr yn:

• Ymwybodol o’r dull awdit ar gyfer asesu’r ddarpariaeth gyfredol ac adolygu’r cydrannau ar gyfer ACaRh o safon uchel yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.
• Ymwybodol o’r teclyn mapio ‘Siwrne i ACaRh Statudol’.
• Meddu archwilio amrediad o strategaethau addysgu ar gyfer creu gwersi diogel, deniadol a rhyngweithiol.
• Cynyddu gwybodaeth, hyder a sgiliau ar sut i ddarparu ACaRh ysgol gyfan.
• Archwilio agweddau, gwybodaeth ac ymddygiad parthed cydberthynas ac iechyd rhywiol.
• Disgrifio dulliau atal cenhedlu mwyaf cyffredin gan gynnwys atal cenhedlu brys a sut maen nhw’n gweithio i osgoi beichiogi ac/neu amddiffyn rhag haint rhywiol.
• gwybod ym mhle i dderbyn dulliau atal cenhedlu a sut i gael cymorth mewn sefyllfa o fethiant yr atal cenhedlu.
• Egluro’r gwahanol heintiau rhywiol a’r canlyniadau posibl.
• Medru darparu amrywiaeth o strategaethau addysgu am:
defnyddio condom yn effeithiol
sut mae heintiau rhywiol yn lledaenu
ceisio a derbyn caniatâd
archwilio diffiniadau ac agweddau LGBTQ+
• Archwilio agweddau cyfreithiol caniatau/cydsynio
• Derbyn gwybodaeth am amrediad o adnoddau sydd ar gael ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb i bobl ifanc.
• Adnabod arfer dda ar sut i gynllunio, asesu, monitro ac arfarnu’r addysgu a dysgu AcaRh.
• Gweithredu strategaethau ar gyfer cynnwys dysgwyr, rhieni a Llywodraethwyr mewn AcaRh.

 

Mae cynnwys penodol i’r hyfforddiant yn medru ei deilwro i gyrraedd anghenion ysgolion.
Am fanylion bellach cysylltwch â mi drwy e-bost - mail@teachhealth4kids.com

 

Adborth o’r cwrs
“y cwrs mwyaf defnyddiol a ddiddorol i mi fynychu ers amser maith, mae’r adnoddau a’r gweithgareddau wedi bod yn hynod ddefnyddiol”.
“hyfforddiant diddorol a hwyliog- diogon o gyfle i drafod a chwestiynu”.
“Oedd gan yr hyfforddwraig wybodaeth eang ac adnoddau defnyddiol tu hwnt! Diolch!
“cwrs gwerth chweil popeth yn addas ac yn ddefnyddiol ar gyfer athrawon uwchradd”.
“yr wyf wedi derbyn gwybodaeth am adnoddau a syniadau/gweithgareddau y gellir eu defnyddio wrth gyflwyno’r maes”.
“Yn sylweddoli pwysigrwydd y maes gan ei fod yn dod yn statudol ac yn deall sut mae’n plethu i’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles ynghyd a Gwyddoniaeth a Thechnoleg”.
“yr wyf yn awr yn gwybod am yr hyn sydd angen ei drafod /a’i gyflwyno ar draws Cyfnod Allweddol 3 a 4”.
“yn dilyn yr hyfforddiant byddwn yn trafod gyda’r UDRh ac yn mynd ati gyda chydweithwyr i drefnu rhaglen gyson ysgol gyfan”.
“yr wyf yn llawer mwy hyderus i gynllunio ac addysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar ôl yr hyfforddiant ac yn edrych ymlaen at fynd ati”
“Yn eithaf ansicr ar ddechrau’r hyfforddiant ond yn falch o weld fy mod wedi cynyddu mewn hyder i ddysgu’r maes ar ddiwedd y dydd”
“mae’r hyfforddiant wedi gwneud i mi ystyried sut y byddwn yn cyflwyno’r pwnc fesul blwyddyn ysgol”
“yn sylweddoli bod gan lawer o athrawon yr ysgol fewnbwn i’r maes a’r angen cydweithio drwy gydol yr ysgol”
“wedi mwynhau rhannu syniadau ar beth a sut i gyflwyno”.
“Oedd y sgyrsiau anffurfiol a’r cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y sesiwn yn ddefnyddiol iawn”.

Wales Relationships and Sexuality Education (RSE) Training for Additional Learning Needs Educators

Get ready for statutory Relationships and Sexuality Education. This one-day training will provide knowledge and strategies to assist schools to:
• audit current provision
• consult with learners
• plan an effective rights and equity based inclusive programme.


This course is suitable for members of senior leadership teams, the schools’ RSE lead, SEN Co-ordinator and teaching staff.


COURSE OUTLINE:
The trainer will help participants explore a range of teaching strategies to create safe, engaging and interactive lessons. It will provide educators with the knowledge, skills and confidence to teach whole school effective RSE.
Participants will be guided through the Relationships and Sexuality Education Welsh Government Guidance and Code and introduced to strategies and resources that will assist schools in delivering a whole school RSE programme within the Areas of Learning and Experience within the Curriculum for Wales 2022.

Please note - it is possible choose the most appropriate learning outcomes from the list below to meet the needs of learners.

 

Learning outcomes
Participants will:
• Be aware of the audit tool to assess current provision and review the components for high quality RSE for the Foundation Phase and Key Stage 2.
• Be aware of the ‘journey to statutory RSE’ mapping tool.
• Be able to explore a range of teaching strategies to create safe, engaging and interactive lessons.
• Gain knowledge, confidence and skills in how to deliver effective whole school RSE.
• Be aware of strategies to name body parts including the genitals.
• Be aware of strategies to discuss appropriate and inappropriate touching and personal safety with learners.
• Use teaching strategies to teach about the changes that occur during puberty.
• Recognise peer to peer sexualised behaviour.
• Respond appropriately to incidents of sexualised behaviour.
• Apply a range of resources and approaches to ensure RSE is safe, inclusive and meets the needs of all learners.
• Acquire knowledge of the various resources suitable for relationships and sexuality education for young people.
• Identify good practice on how to plan, assess, monitor and evaluate RSE teaching and learning.
• Apply strategies for involving learners, parents and governors in RSE.

Specific for secondary schools
• describe the common methods of contraception including emergency contraception and how they work to prevent conception and/or protect against STI’s.
• know how to access contraception, and how to seek help in event of contraception failure.
• describe the various sexually transmitted infections and possible consequences.
• be able to deliver various teaching strategies to teach about:
safe effective condom use
how sexual transmitted infections are spread
gaining and seeking consent
explore LGBTQ+ definitions and attitudes
• explore the legal aspect of consent.

 

Mae cynnwys penodol i’r hyfforddiant yn medru ei deilwro i gyrraedd anghenion ysgolion.
Am fanylion bellach cysylltwch â mi drwy e-bost - mail@teachhealth4kids.com

 

Training feedback:

“A fantastic, informative course. Very helpful and clear”.
“I have a much clearer understanding of what we need to do now”.
“I feel more confident in what needs to be done”.
“This training has raised my awareness of the importance of a developmentally appropriate, rights and equity approach to RSE”.
“A very friendly informative session that was interactive ”
“Fantastic training really enjoyed it. Feel eager to go back to School to start planning with lots of ideas provided during the course”.
“I am now aware of the statutory implications regarding RSE and our obligations to fulfil them”.
“The various resources discussed was very valuable”.
“Very informative training, received information to increase confidence in teaching RSE. I am looking forward to using the excellent child and teacher friendly resources”.
“I really enjoyed the Circle Time demonstrations lesson, discussions and sharing information with other participants”.
“I feel more confident knowing about the activities that can be used with Foundation Phase and Key Stage 2 learners”.
“The trainer delivered the information in a positive and informative way”.
“Having a breakdown of the approaches to teaching the subject across the age ranges”