Blynyddoedd Cynnar -
Adnoddau Addysg Cydberthynas A Rhywioldeb Dwyieithog
Amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer addysgu plant 3 - 5 oed ECYN ADNODDAU
Creuwyd adnoddau ©Teach Health 4 Kids ™ er mwyn cynorthwyo ymarferwyr i addysgu rhai agweddau o’r cynnwys gorfodol o fewn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, Llywodraeth Cymru 2021.
Mae’r amrywiaeth o weithgareddau gweithredol yn caniatáu i blant fod yn ddigymell, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau gosod strwythuredig. Mae’r gweithgareddau amrywiol byr wedi eu creu er mwyn bod yn ystyriol o allu canolbwyntio plant 3 – 5 oed a chynnig cyfleoedd:
- bod yn annibynnol
- siarad, trafod a chyfathrebu
- gwrando
- aros eu tro
- darllen
- gwneud marciau ac ysgrifennu
- archwilio
- arsylwi
Themâu addysgu
- Dysgu terminoleg gywir ar gyfer pob un o rannau’r corff.
- Dysgu am ffiniau personol a pha rannau o’r corff sy’n breifat.
- Dysgu am pwy sy’n ein helpu.
Cynnwys y pecyn
- Mat llawr main 1500mm x 900mm
- Llyfryn athrawon gyda chyfarwyddiadau cynhwysfawr
- Cardiau rhannau o’r corff
- Cardiau arwyddion gwyrdd a coch
- Poster arwyddion cadw’n ddiogel
Dogfennau ar gyfer llungopïo
- Labeli gwyrdd a coch
- Poster arwyddion cadw’n ddiogel
- Amlinelliad o pants
- Amlinelliad y corff
Mae’r adnoddau uchod yn dod mewn bag cryf gyda sip ar gyfer storio’r cydrannau amrywiol.
Pris £165 (Postio a Pacio £5.00 ar gyfer archebion yn y DU)
Am wybodaeth bellach neu i wneud archeb cysylltwch Teach Health 4 Kids ™ drwy e-bost mail@teachhealth4kids.com.